Minutes:
CYFARFOD CABINET RHANBARTHOL BARGEN DDINESIG
PRIFDDINAS-RANBARTH CAERDYDD
COFNODION
___________________________________________________________________
CYFARFOD CABINET RHANBARTHOL ARBENNIG: 14 Gorffennaf 2017
___________________________________________________________________
Aelodau'r Cabinet Rhanbarthol oedd yn Bresennol:
Y Cyng. Nigel Daniels - Cyngor Blaenau Gwent
Stephen Gillingham, Prif Weithredwr - Cyngor Blaenau Gwent
Y Cyng. Huw David, Arweinydd - Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Mark Shephard - Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Y Cyng. David Poole - Cyngor Caerffili
Chris Burns, Prif Weithredwr - Cyngor Caerffili
Cyng. Huw Thomas - Cyngor Caerdydd
Paul Orders, Prif Weithredwr - Cyngor Caerdydd
Y Cyng. Kevin O’Neill, Arweinydd - Cyngor Merthyr
Gareth Chapman, Prif Weithredwr - Cyngor Merthyr
Y Cyng. Peter Fox, Arweinydd - Cyngor Sir Fynwy
Paul Matthews, Prif Weithredwr - Cyngor Sir Fynwy
Y Cyng. Debbie Wilcox, Arweinydd - Cyngor Casnewydd
Gareth Price - Cyngor Casnewydd
Y Cyng. Andrew Morgan, Arweinydd (Cadeirydd) - Cyngor Rhondda Cynon Taf
Chris Bradshaw, Prif Weithredwr - Cyngor Rhondda Cynon Taf
Y Cyng. Anthony Hunt, Arweinydd - Cyngor Torfaen
Alison Ward, Prif Weithredwr - Cyngor Torfaen
Y Cyng. John Thomas, Arweinydd - Bro Morgannwg
Rob Thomas, Prif Weithredwr - Bro Morgannwg
Swyddogion:
Christine Salter - Corff Atebol
David Marr - Corff Atebol
Liz Weale - Corff Atebol
Hrjinder Singh - Corff Atebol
Jonathan Day - Cyngor Caerdydd
Kellie Beirne - Cyngor Sir Fynwy
Peter Davies - Cyngor Sir Fynwy
Christian Hanagan - Cyngor Rhondda Cynon Taf
James Whitehurst - Cyngor Rhondda Cynon Taf
Alistair Milburn - Cyfathrebiadau Effeithiol
Sheila Davies, Cyfarwyddwr - PMO Y Fargen Ddinesig
John Duddridge - Swyddog Rheoli Rhaglen Y Fargen Ddinesig
Hazel Duke - Swyddog Rheoli Rhaglen Y Fargen Ddinesig
Matthew Swindell - Swyddog Rheoli Rhaglen Y Fargen Ddinesig
Ymddiheuriadau:
Darren Mepham, Prif Weithredwr - Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Will Godfrey, Prif Weithredwr - Cyngor Casnewydd
1. Croeso ac Ymddiheuriadau
Croesawodd Y Cyng. Morgan gydweithwyr i’r cyfarfod a chytunwyd ar seibiant byr i ffotograff diweddar o’r Cabinet Rhanbarthol gael ei dynnu.
2. Datgan Buddiannau
Nid oedd unrhyw fuddiannau i’w datgan a wnaed ar eitemau ar agenda'r cyfarfod.
3. Calendr Cyfarfodydd Cyhoeddus i’r Dyfodol Arfaethedig 2017-2018
Cytunwyd y câi dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd chwarterol cyhoeddus y Cabinet Rhanbarthol eu gosod, gan symud o ddydd Gwener i ddydd Llun yn y dyfodol. Byddai'r Swyddog Rheoli Rhaglen yn cylchredeg dyddiadau arfaethedig i bob Awdurdod i'w cytuno a byddai cyfarfodydd cyhoeddus yn y dyfodol yn cylchdroi er mwyn cael eu cynnal yn Siambrau'r Cyngor ymhlith yr Awdurdodau Partner.
4. Partneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (Cofnod Rhif 8)
Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran y Cyng. Huw Thomas:-
1. 1. Cymeradwyo cyfansoddiad y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.
2. 2. Dirprwyo awdurdod i swyddogion i sefydlu'r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol ac i ymgymryd â’r broses recriwtio.
3. Cytuno ar gyllid ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.
PENDERFYNWYD: cytunwyd bod Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
a) Yn cymeradwyo’r cynnig sy’n atodedig fel Atodiad 1 i’r Adroddiad, yn amlinellu egwyddorion a chyfansoddiad y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol (‘REGP’).
b) Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, mewn ymgynghoriad â chyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig a’r Corff Atebol (i) i ymgymryd â’r ymarfer recriwtio ar gyfer penodi aelodau Bwrdd yr REGP a (ii) i adrodd yn ôl i’r Cabinet gydag argymhellion o ran yr ymgeiswyr mwyaf addas i’w penodi, er mwyn i’r Cabinet eu cymeradwyo.
c) Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Cabinet Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r aelod blaen ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, er mwyn dewis y panel penodi y cyfeiriwyd ato yn yr adroddiad hwn
d) Ar gyfer blwyddyn ariannol eleni a’r flwyddyn nesaf, dyrannu cyllid o hyd at £30,000 y flwyddyn er mwyn cefnogi sefydlu'r Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol, â chymorth ariannol cyfredol ar gyfer yr REGP yn cael ei ystyried gan y Cabinet Rhanbarthol wrth osod ei Gyllideb Blynyddol.
e) Dirprwyo awdurdod i Brif Weithredwr Cyngor Caerdydd, er mwyn pennu’r gydnabyddiaeth mewn ymgynghoriad â Chadeirydd Cabinet Rhanbarth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a'r aelod blaen ar gyfer y Bartneriaeth Twf Economaidd Rhanbarthol.
Gofynnodd y Cyng. Morgan i gydweithwyr iddynt gytuno i gymryd Eitem 6 ar yr agenda cyn Eitem 5 a chytunwyd hynny.
6. Project Lled-Ddargludyddion Cyfansawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Diweddariad ar Faterion sy’n aros (Cofnod Rhif 9)
Mae Atodlen Gyfrinachol i’r Cofnod hwn na chaiff ei chyhoeddi oherwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r fath a ddisgrifir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cynghorydd y Cyng. Morgan y cydweithwyr i nodi, wrth gyfeirio at Eitem Agenda 6, nad oedd Atodiadau 1-6 o’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o'r fath a ddisgrifir ym mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Yn hynny o beth, pe bai cydweithwyr yn dymuno trafod materion o fewn yr Atodiadau hynny, byddai’n rhaid i aelodau’r cyhoedd adael tra bod y drafodaeth honno’n cael ei chynnal a gofynnir iddynt ddychwelyd er mwyn clywed crynodeb a phenderfyniad terfynol y Cabinet.
Pe bai unrhyw un yn dymuno cynnig bod y cyhoedd yn gadael, gofynnwyd i gydweithwyr egluro hynny fel y gellir eilio'r cynnig a'i gynnig a'i gofnodi'n ffurfiol yn y cofnodion. Cynigiwyd y cynnig a gofynnwyd i aelodau’r cyhoedd adael y trafodion.
Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig:-
1. |
Darparu diweddariad ar broject y Lled-Ddargludyddion Cyfansawdd (CSC), ar ôl derbyn cymeradwyaeth gan y Cabinet Rhanbarthol ar 2 Mai 2017, ar yr amod bod materion penodol yn cael eu penderfynu yn llwyddiannus. |
2. |
Nodi newid yn yr ymrwymiad ariannol cyffredinol sy'n ofynnol ar gyfer y project.
|
3. |
Cadarnhau y gwnaed digon o gynnydd ar y materion sy'n aros er mwyn galluogi'r Project CSC i fynd yn ei flaen ac i’r cyllid gael ei ryddhau.
|
PENDERFYNWYD: cytunwyd bod Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd:
a) |
Yn cytuno ar gynyddu cost ofynnol y project i £38.5m fel y disgrifir yn Atodiad 3 yr Adroddiad;
|
|
b) |
Cytuno bod digon o gynnydd wedi’i wneud ar y materion hynny yr oedd penderfyniad y Cabinet Rhanbarthol ar y Project CSC ar 2 Mai 2017 yn amodol arnynt, ac yn cadarnhau y dylai’r Project CSC fynd yn ei flaen. |
|
|
|
|
c) |
Awdurdodi'r Corff Atebol i ryddhau cyllid i’r SPV, hyd at £38.5m, mewn cyfrannau fel y gofynnwyd gan yr SPVC ac yn unol â’r darpariaethau ariannu a benthyca a ddisgrifir yn adrannau 7 ac 8 Cytundeb Cyfranddalwyr SPV a atodir yn Atodiad 6 yr Adroddiad.
|
|
5. Project Lled-Ddargludyddion Cyfansawdd Prifddinas-Ranbarth Caerdydd – Cerbyd Pwrpas Arbennig (Cofnod Rhif 10)
Mae Atodlen Gyfrinachol i’r Cofnod hwn na chaiff ei chyhoeddi oherwydd ei bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o’r fath a ddisgrifir ym Mharagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Cynghorydd y Cyng. Morgan y cydweithwyr i nodi, wrth gyfeirio at Eitem Agenda 6, nad oedd Atodlenni 1-6 o’r adroddiad hwn i’w cyhoeddi gan eu bod yn cynnwys gwybodaeth eithriedig o'r fath a ddisgrifir ym mharaagraffau 14, 16 a 21 rhannau 4 a 5 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.
Yn hynny o beth, pe bai cydweithwyr yn dymuno trafod materion o fewn yr Atodiadau hynny, byddai’n rhaid i aelodau’r cyhoedd adael tra bod y drafodaeth honno’n cael ei chynnal a gofynnir iddynt ddychwelyd er mwyn clywed crynodeb a phenderfyniad terfynol y Cabinet.
Pe bai unrhyw un yn dymuno cynnig bod y cyhoedd yn gadael, gofynnwyd i gydweithwyr egluro hynny fel y gellir eilio'r cynnig a'i gynnig a'i gofnodi'n ffurfiol yn y cofnodion. Cynigiwyd y cynnig a gofynnwyd i aelodau’r cyhoedd adael y trafodion.
Ystyriodd y Cabinet Rhanbarthol adroddiad ar ran Cyfarwyddwr Rhaglen y Fargen Ddinesig:-
1. Ceisio cymeradwyaeth y Cabinet Rhanbarthol i sefydlu Cerbyd Pwrpas Arbennig (SPV) er mwyn cyflawni’r Project Lled-Ddargludyddion Cyfansawdd (Project y CSC). |
2. 2. Ystyried a chytuno’r manylion gofynnol sydd eu hangen er mwyn sefydlu’r SPV, gan gynnwys materion megis cwmpas, amcanion, enw, trefniadau cyfranddalwyr a cyfansoddiad y Bwrdd.
PENDERFYNWYD: cytunwyd bod Cyd-gabinet Prifddinas-Ranbarth Caerdydd: |
a) |
Yn sefydlu Cwmni Cerbydau Pwrpas Arbennig a Gyfyngir trwy Gyfranddaliadau fel y disgrifir yn yr adroddiad Gwerthuso Opsiynau SPV sydd yn Atodiad 1B; |
b) |
Yn cytuno enwi’r Cwmni Cerbydau Pwrpas Arbennig yn LDC Ffowndri Cyf’[1].
|
c) |
Cymeradwyo’r Cytundeb Cyfranddalwyr sy’n cysylltiedig i ‘LDC Ffowndri Cyf’, fel y disgrifir yn Atodiad 2B;
|
d) |
Gofyn i bob awdurdod benodi Cyfarwyddwr ar Fwrdd y Cwmni ‘LDC Ffowndri Cyf’
|
e) |
Cytuno, at ddibenion y Project CSC yr Awdurdod Blaen o hyd fydd Cyngor Sir Fynwy, a dirprwyo i Brif Swyddog Gweithredol yr Awdurdod hwnnw, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Cabinet Rhanbarthol a Chyfarwyddwr y Rhaglen, y p?er:
i. I ymdrin â phob mater tan i'r SPV gael ei ffurfio; ac ii. Ar ôl hynny, bydd pob mater sy’n dod i ran yr Awdurdod Blaen fel y rhestrir yng Nghytundeb y Cyfranddalwyr ac unrhyw faterion y mae’n ofynnol er mwyn hwyluso'r Project CSC ac sy’n dod y tu allan i gylch gorchwyl yr SPV cyhyd ag y caiff y dirprwyo ei cyflawni o fewn cylch gorchwyl yr ymrwymiad ariannol a gymeradwyir.
|
f) |
Cytuno bod yr Awdurdod Blaen yn ymgymryd â gwarant taliad uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru fel y disgrifir yn 8.9 Cytundeb y Cyfranddalwyr mewn perthynas ag ‘LDC Ffowndri Cyf; a
|
g) |
Bod Cyfarwyddwr y Rhaglen CCR, mewn ymgynghoriad â’r Awdurdod Blaen, yr SPV a'r Corff Atebol, yn adrodd i’r Cabinet Rhanbarthol, ar yr adeg briodol, er mwyn gwneud penderfyniadau ar unrhyw newidiadau i rolau a chyfrifoldebau‘r Awdurdod Blaen a’r SPV.
|
h) |
Cymeradwyo Cynllun Busnes LDC Ffowndri Cyf fel y disgrifir yn Atodiad 4. |
Diolchodd y Cyng. Morgan ei gydweithwyr am fod yn bresennol a daethpwyd â’r cyfarfod i ben.